Amdanom ni
Gwybodaeth am Gwen
Bu Gwen yn hyfforddi mewn theatr dechnegol yn RADA ac aeth ymlaen i weithio yn adran sain brysur yn y Royal Exchange Theatre. Ers hynny, mae gyrfa Gwen wedi cynnwys teledu, theatr, syrcas a theatr y stryd. Cafodd ei galw yn ‘unigolyn amryddawn y theatr’ ac mae hi’n gweithio fel rheolwr technegol, cyfarwyddwr, dramodydd, perfformwraig a chrëwraig ar gyfer cwmnïau theatr drwy’r DU.
Green Truck Studios
Cafodd Gwen y syniad i helpu perfformwyr gynhyrchu cynnwys sain a fideo yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020. Gofynnwyd iddi helpu grŵp drama amatur i greu fideo, ac yn fuan gwelodd Gwen ffordd y gallai hi gyfuno ei sgiliau i gyd i gyfarwyddo theatr, chwarae cerddoriaeth a pheirianneg er mwyn cefnogi perfformwyr eraill i ddod o hyd i bresenoldeb ar-lein. Gwnaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gefnogi ei syniad a dechreuodd Green Truck Studios.
Darganfyddwch fwy am gyn-gynyrchiadau Green Truck yma.
Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ardal Gogledd-orllewin Cymru. Dyma lle mae’r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru, yn ogystal â llawer o gopaon, llynnoedd, llwybrau ac arfordir. Yn ddiweddar, mae Eryri wedi dod yn atyniad i dwristiaid o bell ac agos, sy’n cael eu denu i’r ardal ar gyfer gweithgareddau awyr agored, fel cerdded, dringo creigiau, beicio mynydd a chaiacio.
Sut mae corau/cerddorfeydd rhithwir yn gweithio
Unwaith yr ydych chi wedi dewis y darn yr ydych chi eisiau’i berfformio, byddwn yn anfon trac at y cyfranogwyr er mwyn eu harwain. Byddan nhw’n recordio eu darn ar ddyfais yn eu cartrefi ac yn ei anfon atom.
Byddwch yn derbyn yr holl gyfarwyddiadau a’r gefnogaeth dechnegol y byddwch chi eu hangen er mwyn arwain eich grŵp i greu côr/cerddorfa rithwir. Pan mae cyfranogwyr wedi recordio eu cyfraniad gartref – maen nhw’n ei anfon atom a byddwn yn gweithio yn agos gyda chi er mwyn ei gyfuno yn gyngerdd ar-lein y gallwch chi ei rannu gyda’ch cynulleidfaoedd.
Podlediadau a Flogiau
Os oes gennych chi syniad ar gyfer gwneud podlediad neu flog, gall Green Truck Studios eich helpu chi gyda phob agwedd o’r cynhyrchiad.
Gallwn weithio yn unol â’ch cyfarwyddiadau a’ch helpu chi i ddatblygu eich arddull unigryw eich hun er mwyn helpu i dynnu sylw at eich cynnwys.
Rydych chi wedi cael syniad.
Rydych chi wedi cael syniad.
Efallai eich bod mewn côr, sy’n ymarfer ar-lein ar hyn o bryd, ac rydych chi’n dymuno gwneud un o’r fideos hynny yr ydych wedi’u gweld gyda llawer o bobl, pob un yn canu ei ran.
Neu efallai eich bod mewn cymdeithas ddrama amatur. Rydych chi wedi ymarfer ar Zoom, ond beth a ddylid ei wneud yn awr? Sut y gallwch chi droi eich holl waith caled yn ddarn i ymfalchïo ynddo?
Efallai eich bod yn deulu, sydd wedi cael eich gwahanu drwy bellter, ac sy’n dymuno gwneud cerdyn cyfarch grŵp i’w anfon at bobl, ond lle dylid dechrau?
Efallai eich bod chi angen help gyda’ch syniadau, neu efallai fod gennych chi syniad cwbl glir, ond nid ydych chi’n gwybod lle i ddechrau gyda’r ochr dechnegol. Neu efallai eich bod dim ond eisiau dweud helo a chael mwy o wybodaeth.
Rydym yn gallu gwireddu eich syniadau! Cysylltwch â ni yn awr i ddarganfod mwy!